Saws tsili melys

Saws tsili melys

Saws poblogaidd yn y Gorllewin a De Ddwyrain Asia yw saws tsili melys a wneir o bupur tsilis a rhyw gynhwysyn melysol megis ffrwyth neu siwgr. Yn y Gorllewin fe'i ddefnyddir gan amlaf fel dip i gyd-fynd â bwydydd Tsieineaidd, Gwlad Tai neu Faleisia megis berdys cras neu grempog lysiau. Mae'n saws trwchus, tryleu, a choch-oren ei liw.[1]

  1. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 398.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search